Varanasi

}}

Dinas yn nhalaith Uttar Pradesh yn India yw Vārānasī, gynt Benares, Banaras neu Benaras. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr crefydd Hindŵaeth.

Saif Varanasi rhwng Afon Ganga ac Afon Varuna, ac ystyrir ei bod yn un o ddinasoedd hynaf y byd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,371,749. Mae'n un o'r cyrchfannau pwysicaf i bererinion Hindŵaidd, ac mae mwy na 1,000,000 ohonynt yn ymweld â Varanasi bob blwyddyn. Dywedir i'r duw Shiva fyw yno unwaith. Cred dilynwyr Hindŵaeth fod ymdrochi yn Afon Ganga yn golchi ymaith bechodau, a bod marw yn Varanasi yn osgoi cylch dadeni. Canolbwynt y ddinas yw'r gatiau, grisiau sy'n arwain i lawr at yr afon.

Ceir nifer fawr o demlau yma; yr enwocaf yw Teml Kashi Vishwanath, wedi ei chysegru i Shiva. Mae Varanasi hefyd yn ddinas sanctaidd i ddilynwyr Jainiaeth. Ar gyrion y ddinas mae Sarnath, lle traddododd y Bwda ei bregeth gyntaf, yn fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Varanasi', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Varanasi
    Cyhoeddwyd 2013
    Full text available on Springer
    Off-campus access
    Electronig eLyfr