Limerick
| gwlad = }}Prifddinas Swydd Limerick yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon, yw Limerick (Gwyddeleg: ''Luimneach''). Saif y ddinas ar Afon Shannon, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 91,000. Saif tua 195 km i'r gorllewin o ddinas Dulyn.
Mae'r ddinas yn ddyddio o leiaf o gyfnod ymsefydliad y Llychlynwyr yn 812, ac mae nifer o'r adeiladau, megis Castell y Brenin John, yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd. Roedd yn ddinas o bwysigrwydd strategol yn rhyfeloedd y 17g, a gwarchaewyd arni gan Oliver Cromwell yn 1651. Dirywiodd sefyllfa economaidd y ddinas yn dilyn Deddf Uno 1801 a Newyn Mawr Iwerddon, a dim ond yn ddiweddar mae wedi adfywio.
bawd|dim|250px|Castell y Brenin John, ar lan ddeheuol Afon Shannon, gyda Phont Thomond Darparwyd gan Wikipedia
-
1