Lai
bawd|Darluniad o'r gerdd ''Les Deux Amants'' yn argraffiad 1820 o ''Poésies de Marie de France''. Cerdd draethiadol fer yn llenyddiaeth ganoloesol Ffrainc a Lloegr yw'r ''lai'' a ysgrifennwyd yn Hen Ffrangeg, Eingl-Normaneg, neu Saesneg Canol. Lleolir y straeon hyn yn Llydaw, Cernyw, a Lloegr, ac maent yn ymwneud â serch llys, sifalri, ymladdfeydd, anturiaethau, hud a lledrith, a'r tylwyth teg ac yn tynnu'n gryf ar lên gwerin Celtaidd, yn enwedig Cylch Arthur, a thraddodiad llafar y ''contes'' Llydewig. Fe'i cyfansoddwyd gan amlaf mewn cwpledi o linellau wythsill sy'n odli. Dyma un o'r ddwy ffurf lenyddol, ynghŷd â'r rhamant llys, a ddefnyddiwyd i gyfansoddi barddoniaeth Mater Prydain. Credir i storïwyr Llydaw ganu'r ''lais'' cyntaf yn Ffrangeg neu Lydaweg, er nad oes yr un ohonynt yn goroesi. Ansicr yw geirdarddiad yr enw, gan nad oes tystiolaeth o fôn Llydaweg iddo, ond mae'r gair Hen Wyddeleg ''laíd'' (cerdd, cân) yn awgrymu ffynhonnell Geltaidd o bosib.Prif awdur y ffurf hon yn yr Eingl-Normaneg ydy Marie de France, a ysgrifennodd ddeuddeg o ''lais'' yn Lloegr yn niwedd y 12g. Honna bod ei cherddi yn tynnu ar ffynonellau Llydaweg, ac maent yn llawn cyfeiriadau at hanes traddodiadol a motiffau o lên gwerin y gwledydd Celtaidd. Er enghraifft, cymharer y gêm ford yn ''Eliduc'' â ''fidchell'' yn llenyddiaeth Wyddeleg a gwyddbwyll yn y Mabinogi. Dim ond un o ''lais'' Marie sydd yn cynnwys cymeriadau Arthuraidd, sef ''Lanval'', am un o farchogion llys y Brenin Arthur. Adroddir chwedl Gernywaidd Trystan ac Esyllt yn ''Chevrefoil''.
Nid yw'n sicr pwy ysgrifennodd y ''lais'' eraill sydd yn goroesi o'r 12g a'r 13g, ac yn hanesyddol cawsant eu priodoli i Marie de France. Un enghraifft ydy ''Graelent'', gwaith tebyg i ''Lanval'', a gredir iddo gael ei gyfansoddi gan fardd o Lydaw. Yn niwedd y 13g a dechrau'r 14g ysgrifennwyd sawl ''lai'' yn Saesneg, gan gynnwys ''Sir Gowther'' (tua 1400), ffurf ar chwedl Robert y Cythraul; ''Lai le Freine''; ''Sir Orfeo'', am serch Orffews ac Eurydice; y rhamant Arthuraidd ''Sir Launfal'' neu ''Launfalus Miles'' gan Thomas Chestre. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5Cyhoeddwyd 2013Awduron Eraill: “...Lai...”
Full text available on Springer
Off-campus access
Electronig eLyfr -
6
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
7
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
8
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
9
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
10
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
11
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
12
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
13
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
14
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
15
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
16
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
17
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
18
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
19
Full text available on Research4Life (SPIE Digital Library)
Electronig Llyfr -
20